Rhif

Ymrwymiad

Yr Adran sy’n Arwain

2011-12

2012-13

2013-16

Hynt y gwaith hyd yma

 

PENNOD 1: Twf a swyddi cynaliadwy

 

 

 

 

 

 

Yn dilyn adolygiad o weithgareddau i helpu pobl nad ydynt mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth, canolbwyntio adnoddau ar yr ymyriadau mwyaf effeithiol.

AdAS

P

P

G

Mae Cynllun Gweithredu Ymgysylltu a Chyflogaeth Ieuenctid 2011-2015 yn gosod allan rhai o’r prif fesurau fydd yn cael eu rhoi ar waith i rwystro pobl ifanc rhag ymddieithrio oddi wrth ddysgu ac i’w helpu i ymuno â’r farchnad lafur.

 

Bydd adolygu ac ad-drefnu ffrydiau ariannu sy’n helpu’r bobl ifanc nad ydynt, neu sydd mewn perygl o beidio â bod, mewn addysg, gwaith na hyfforddiant (NEET) yn helpu i ganolbwyntio’r adnoddau ar yr ymyriadau mwyaf llwyddiannus, gan gynnwys rhaglenni ataliol yn gynharach ym mywyd yr unigolyn. Cafodd Is-adran Ymgysylltu a Chyflogaeth Ieuenctid ei chreu o fewn Llywodraeth Cymru yn 2012-13 i ddod â meysydd polisi ynghyd sy’n allweddol i leihau canran y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, gwaith na hyfforddiant (neu sy’n debygol o fod felly). Cynhelir yr adolygiad gan yr Is-adran newydd hon unwaith y bydd wedi’i sefydlu’n llawn, fel rhan o fframwaith ehangach.

 

 

Darparu gwybodaeth drylwyr am y farchnad lafur i helpu unigolion i wneud penderfyniadau

gwybodus am y ddarpariaeth addysg.

AdAS

P

P

G

Anfonwyd adroddiad ar Arolwg Sgiliau Cyflogwyr y DU at randdeiliaid ym mis Mai. Caiff mwy o adroddiadau rhanbarthol eu hanfon wrth iddynt gael eu llunio.

 

Mae Uned Wybodaeth Llywodraeth Cymru am y Farchnad Lafur yn treialu rhoi’r holl wybodaeth am gyrsiau addysg a swyddi gweigion mewn un lle, ar wefan Gyrfa Cymru.

 

Mae astudiaeth gwmpasu’n edrych ar system fyddai’n gallu rhoi gwybodaeth am gyfleoedd gwaith i unigolion sy’n chwilio am lwybr addysg neu yrfa penodol. Ei nod fydd llunio dangosyddion cryno,

fesul grwˆ p galwedigaethol, o’r tebygolrwydd o gael gwaith. Ar hyn o bryd mae’r data yn cael eu gwerthuso i weld pa mor addas y maent, gyda’r bwriad o gynnal cynllun peilot o Fedi 2012.

 

 

Gwerthuso’r gweithgarwch sgiliau sylfaenol ôl-16 cyfredol a diffinio polisi i ddylanwadu ar yr hyn a ddarperir yn y dyfodol.

AdAS

P

P

GD

Mae gwaith ymchwil wedi’i gomisiynu i werthuso sgiliau sylfaenol ôl-16 yn ystod 2012. Bydd yr ymchwil yn ein helpu i lunio polisi ehangach ar ddysgu sgiliau sylfaenol ym mhob rhan o’r system addysg ac yn ystyried y cysylltiadau posibl â thangyflawni a diweithdra yn ddiweddarach mewn bywyd.

 

1/002

Byddwn yn mynd i’r afael â diweithdra ymysg ieuenctid trwy

greu cronfa swyddi a hyfforddiant i bobl ifanc ac yn ymestyn cyfleoedd am brentisiaethau ar gyfer pobl ifanc.

Sefydlu Cronfa Swyddi Cymru yn cynnig cyflogaeth neu

hyfforddiant ar gyfer ein pobl ifanc.

AdAS

P

G

G/C

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod yn creu Twf Swyddi Cymru

ym mis Hydref 2011 ac mae’r peilot cychwynnol wedi creu 110 o

swyddi. Lansiwyd y rhaglen lawn ar 3 Ebrill 2012 a’r bwriad yw

iddi greu 4,000 o gyfleoedd gwaith bob blwyddyn i bobl ifanc

ddi-waith ledled Cymru, 16-24 oed, gan roi profiad gwaith iddynt

am gyfnodau o 6 mis.

 

Ar gyfer Prentisiaethau gweler 1/038 isod.

 

 

 

 

1/006

Parhau i ddatblygu cysylltiadau cryf â’n cwmnïau angori a

datblygu perthynas strategol, gefnogol/buddiol ar y ddwy ochr

gyda’r cwmnïau allweddol hyn, a’u sefydlu yn economi Cymru

trwy ddatblygu cysylltiadau agos â‘n sefydliadau addysg bellach

ac uwch a chynyddu cyfleoedd y gadwyn gyflenwi i’r eithaf.

BETS ac AdAS

G

G

G/C

Mae Adran Addysg a Sgiliau ac Adran Busnes, Menter a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru yn cydweithio’n glos i ddatblygu cysylltiadau rhwng

addysg a diwydiant. Mae hi bellach yn ofyn ar ddarparwyr Addysg Uwch ac Addysg Bellach yng Nghymru i feithrin cysylltiadau â busnesau a diwydiant. Mae Llywodraeth Cymru yn elwa ar gymorth ac arbenigedd unigolion o gwmnïau angori o Gymru ar grwpiau adolygu addysgol amrywiol Llywodraeth Cymru i wneud yn siwr bod datblygiadau addysgol yn y dyfodol yn ateb gofynion busnesau a diwydiant Cymru.

 

Mae Llywodraeth Cymru’n parhau i sicrhau bod mecanweithiau cymorth yn ateb anghenion cwmnïau trwy ein Rhaglen Datblygu’r Gweithlu sy’n cyllido hyfforddiant sy’n helpu busnesau i dyfu a datblygu. Mae lefel y nawdd a roddir yn cyfateb i’r elw a geir o’r buddsoddiad a’r effaith economaidd debygol ar yr ardal, y rhanbarth neu’r wlad. Yn 2011-12,

cafodd 122 o gwmnïau o Gymru eu helpu drwy Raglen Datblygu’r

Gweithlu.

 

1/015

Cefnogi buddsoddi mewn hyfforddiant a rheolaeth staff

er mwyn cynnal diwydiant [twristiaeth] o ansawdd uchel.

BETS ac AdAS

G

G

G/C

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi gweithwyr a chyflogwyr trwy’r

Rhwydwaith Datblygu Rhagoriaeth mewn Lletygarwch. Mae 460 o’r 528 a gymerodd ran wedi ennill cymhwyster, gan ragori ar ddisgwyliadau Llywodraeth Cymru ar gyfer 2011-12. Fodd bynnag, mae nifer y cyflogwyr a gafodd eu helpu (67) yn is na’r disgwyl gwreiddiol oherwydd, tuag at ddiwedd y prosiect, cyflogwyr mawr oedd y rhan fwyaf o’r rheini oedd wedi dewis cymryd rhan.

 

Yn ddiweddar cynhaliwyd gweithdy allanol ar Gronfa Beilot ar gyfer Blaenoriaethau’r Sector, ac mae Eiriolwr y Sector yn gweithio gyda People 1st i ddatblygu prosiect i fynd i’r afael â sgiliau a hyfforddiant ym maes Twristiaeth. Mae trafodaethau ar y gweill gyda phanel cyflogwyr People 1st i nodi’r prif flaenoriaethau. Mae panel sector BETS yn canolbwyntio ar adnewyddu ei Strategaeth Dwristiaeth i Gymru a chaiff materion penodol yn ymwneud â sgiliau eu hystyried yn yr hydref.

 

Bellach mae twristiaeth wedi’i ddynodi’n ‘sector â blaenoriaeth’, ac rydym wedi annog y rhwydwaith Cynghorwyr Datblygu Adnoddau Dynol i ddod o hyd i fusnesau yn y sector hwn a fyddai’n elwa ar ddatblygu staff a chymorth hyfforddiant.

 

1/033

Cyflwyno olynydd i’r rhaglen Adeiladu Sgiliau a fydd yn cynnig

mwy o gymorth, yn cynnwys hyfforddiant ‘cyfranogiad’ lefel

mynediad ar gyfer pobl ifanc sy’n wynebu’r rhwystrau gwaethaf

i gyflogaeth.

AdAS

P/G

G

G/C

Cyflwynwyd Rhaglen Hyfforddiaethau Llywodraeth Cymru ar 1 Awst 2011 ac mae wedi’i anelu at bobl ifanc ddi-waith 16-18 oed. Mae’r rhaglen yn cynnig tri llwybr:

• Opsiwn hyfforddi ‘Cyfranogiad’ ar y lefel mynediad, i ddysgwyr y mae gofyn iddynt gadarnhau ffocws galwedigaethol neu drechu rhwystr dysgu sy’n eu hatal rhag cymryd rhan ar unwaith mewn cwrs galwedigaethol neu ddysgu arall ar lefelau 1, 2 neu 3;

• Opsiwn hyfforddi lefel 1 i ddysgwyr sy’n canolbwyntio ar alwedigaeth ac sy’n gallu dilyn rhaglen ddysgu ar lefel Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol lefel 1 neu ei gyfatebol;

• Opsiwn hyfforddi lefel 2 (y Bont i Gyflogaeth) sy’n cysylltu pobl ifanc sy’n barod i ddechrau gweithio ac sydd wedi cwblhau Lefel 1 ond nad ydynt eto wedi cael swydd neu addysg bellach ar lefel uwch.

 

Cafodd Rhaglen Camau at Waith Llywodraeth Cymru ei rhoi ar waith ar 1 Awst 2011 ar gyfer oedolion 18 oed a throsodd. Mae’r rhaglen yn cynnig:

• Hyfforddiant sy’n Canolbwyntio ar Waith, lle mae dysgwyr yn dilyn cwrs galwedigaethol ar lefel 1, 2 a 3 er mwyn chwalu’r hyn sy’n eu rhwystro rhag dysgu ac i’w helpu i ddysgu’r amrywiaeth o sgiliau hyblyg sydd eu hangen arnynt i ddechrau gweithio neu i ddilyn cyrsiau eraill neu Lwybrau i Gyflogaeth.

• Llwybrau i Gyflogaeth, sy’n cysylltu pobl ifanc sy’n barod i weithio â chyflogwyr sy’n recriwtio neu sy’n arfogi unigolion i ddiwallu anghenion marchnadoedd llafur penodol trwy hyfforddiant arbenigol o hyd at 8 wythnos o hyd.

 

Mae AdAS yn bwriadu llunio ystadegau bob chwarter yn ogystal â bob blwyddyn a’u cynnwys mewn Adroddiadau ar Ddeilliannau Dysgwyr. Bydd hyn yn helpu Llywodraeth Cymru i fonitro deilliannau’r rhaglenni newydd yn fwy effeithiol a phennu targedau realistig ar gyfer darparwyr. 

1/034

Helpu cyflogwyr i fynd i’r afael â’r costau a’r potensial sy’n cael

ei wastraffu oherwydd lefelau isel llythrennedd a rhifedd yn y

gweithlu trwy’r Adduned Cyflogwr Sgiliau Sylfaenol. Caiff hyn ei gefnogi gan gronfeydd Ewropeaidd trwy brosiectau newydd Sgiliau Sylfaenol yn y Gweithle a weithredir ar draws Cymru o Hydref 2010 tan fis Medi 2013. Bwriad y prosiectau yw cefnogi dros 1,000 o gyflogwyr a 30,000 o unigolion a gyflogir.

 

AdAS

G

G

G/C

Lansiwyd rhaglen ‘Sgiliau Hanfodol yn y Gweithle’ gan Lywodraeth

Cymru ar 8 Chwefror 2012. Mae’n fersiwn ddiwygiedig o Sgiliau

Sylfaenol yn y Gweithle a chafodd ei datblygu i symleiddio’r broses

ac i wobrwyo darparwyr hyfforddiant am gyrraedd targedau a

hefyd ehangu’r ddarpariaeth i gynnwys cymwysterau lefel 2.

 

 

1/037

Help ar gyfer pobl sydd wedi colli eu gwaith - adeiladu ar raglen

lwyddiannus ReAct.

AdAS

G

G

G/C

Mae’r nifer sy’n cymryd rhan yn Rhaglen ReAct Llywodraeth Cymru wedi bod yn gostwng yn raddol ers ei hanterth yn ystod y dirwasgiad gyda’r lefelau gweithgarwch ar hyn o bryd ond ychydig yn uwch nag oedd cyn y dirwasgiad. Mae’r uchafswm a ragwelir fydd yn colli swyddi yn y sector preifat a’r trydydd sector o ganlyniad i’r toriadau yn y sector cyhoeddus heb ddigwydd eto. Fodd bynnag, ni ragwelir y toriadau gwaethaf tan 2012-13 a thu hwnt.

 

Profwyd bod y pecyn cymorth ReAct yn gwella siawns rhywun sy’n colli swydd i fynd yn ôl i weithio yn aruthrol. Mae arolwg o’r rheini sydd wedi bod ar raglen ReAct yn cadarnhau hyn ac yn dangos bod 76% ohonynt mewn swydd newydd pan gawsant eu holi.

 

Mae’r nifer sy’n manteisio ar wasanaeth Adapt ar ddechrau’r flwyddyn yn parhau’n isel er gwaethaf sawl digwyddiad i godi ymwybyddiaeth. Mae llawer o’r diswyddiadau yn y sector cyhoeddus hyd yn hyn wedi bod ar sail wirfoddol, ac ni fu galw am y pecyn hyfforddi.

 

1/038

Parhau gyda’n hymrwymiad i gynyddu cyfleoedd am

brentisiaethau trwy’r rhaglen Llwybrau i Brentisiaethau, gyda ffocws arbennig ar ymgysylltu â chyflogaeth ieuenctid, a mynd i’r afael â diweithdra hirdymor.

AdAS

G

G

G/C

Yn 2011/2012, comisiynodd Llywodraeth Cymru 2,000 o leoedd

ar y cynllun Llwybrau at Brentisiaethau (37% yn y De, 33% yn y

Gogledd a 30% yn y De Orllewin a’r Canolbarth). Cyhoeddir nifer

y dysgwyr a gwblhaodd raglen Llwybrau at Brentisiaethau ac a ymunodd â rhaglen brentisiaeth lawn yn ddiweddarach yn y flwyddyn pan fydd y data perthnasol ar gael. Dyma’r sectorau LlaB ar gyfer 2012-13:

·           Lantra – y sector amgylcheddol a diwydiannau’r tir gan gynnwys rheoli tir a chynnyrch, iechyd a lles anifeiliaid, diwydiannau amgylcheddol

·           Sgiliau Adeiladu ac Inswleiddio – pob rhan o’r diwydiant adeiladu, o bensaernïaeth i waith gosod brics

·           E-sgiliau – TG a Thelegyfathrebu yn ogystal â chanolfannau cyswllt

·           SkillsActive – y diwydiant hamdden a dysgu ymarferol gan gynnwys chwaraeon a ffitrwydd, yr awyr agored ac antur, gwaith chwarae, gwersylla a charafanio

·           People 1st – Lletygarwch, hamdden, teithio a thwristiaeth

·           SEMTA – sector y technolegau gweithgynhyrchu, peirianneg a gwyddoniaeth

·           SummitSkills – peirianneg gwasanaethau adeiladu gan gynnwys gwres, awyru, aerdymheru, oeri a phlymio

·           Sefydliad y Diwydiant Moduro – y sector modurol

·           Cogent – y diwydiannau polymer, petrolewm a niwcliar, olew a nwy a chynhyrchion fferyllol a chemegol

·           Improve – cynhyrchu a phrosesu bwyd a diod

·           Creadigol a Diwylliannol – hysbysebu, crefftau, cerddoriaeth, perfformiad, treftadaeth ddiwylliannol, dylunio, llenyddiaeth a chelfyddydau gweledol

Rydym wedi rhoi blaenoriaeth i ddysgwyr LlaB o fewn y contractau Dysgu Seiliedig ar Waith er mwyn gwella’r cyfraddau.

1/039

Parhau i ymestyn y rhaglen Recriwtiaid Ifanc mewn ymateb i

alw parhaus gan gyflogwyr a phobl ifanc, a’r gobaith yw y bydd 1000 o bobl ifanc yn elwa dros y flwyddyn nesaf.

AdAS

P

G

G/C

Ehangwyd Rhaglen Recriwtiaid Ifanc Llywodraeth Cymru yn 2011-12 gan i bron ddwywaith yn fwy na’r 1000 o ymgeiswyr disgwyledig ymgeisio, gyda 1,995 o geisiadau yn mynd i law cyflogwyr. Roedd Pecyn y Llywodraeth ar gyfer Ysgogi’r Economi yn cynnwys arian ychwanegol ar gyfer y Rhaglen Recriwtiaid Ifanc i helpu i ddelio â’r cynnydd yn nifer y ceisiadau.

 

1/040

Rhoi Gwasanaeth Paru Prentisiaeth ar waith fesul cam ar draws Cymru yn ddiweddarach eleni. Bydd y gwasanaeth hwn ar y we yn galluogi prentisiaid posibl i gofrestru ar gyfer prentisiaethau

gwag a gwneud cais am brentisiaethau. Bydd cyflogwyr yn gallu cofrestru eu cwmnïau, cysylltu â darparwyr hyfforddiant lleol a hysbysebu prentisiaethau gwag.

AdAS

P/G

G

G/C

Mae Llywodraeth Cymru wedi llwyddo i roi’r Gwasanaeth Paru Prentisiaethau ar waith fesul cam ledled Cymru. Bydd y gwasanaeth hwn yn galluogi cyflogwyr i gael hyd i’r union berson iawn sydd eu hangen arnynt i lenwi prentisiaeth. Mae hwn yn e-wasanaeth di-dâl. Bydd cyflogwyr yn hysbysebu’u gofynion ar y we a bydd Gyrfa Cymru yn gallu eu helpu i gael hyd i’r person iawn o gronfa ddata o CVs, nodweddion ac uchelgeisiau gyrfa pobl ifanc. Hyd at fis Mehefin 2012, roedd 1182 o swyddi wedi’u hysbysebu trwy’r Gwasanaeth.

1/041

Parhau i gryfhau a datblygu Cronfa Ddysgu Undebau Cymru

(WULF) i gefnogi ymdrechion mudiad yr undebau llafur i annog

cyflogwyr a gweithwyr i gymryd rhan mewn hyfforddiant. Mae WULF wedi helpu dros 10,000 o weithwyr ar draws Cymru i gael mynediad i ddysgu a chaffael sgiliau newydd.

AdAS

G

G

G/C

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi ymdrechion yr undebau llafur i annog cyflogwyr a gweithwyr i dderbyn hyfforddiant trwy Gronfa Ddysgu Undebau Cymru (WULF) ac mae 14,587 o gyflogeion wedi’u helpu yn 2011-12.

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i’r undebau ganolbwyntio ymdrechion y Gronfa ar wella sgiliau sy’n hanfodol i’r gweithle yn y rownd ddiweddaraf o brosiectau WULF y cytunwyd arni ym mis Chwefror 2011. Mae pob prosiect yn para hyd at 3 blynedd a’i nod yw helpu undebau i ddatblygu atebion i broblemau dysgu ar gyfer y gweithle. Mae oes 3 blynedd y prosiectau hyn wedi helpu undebau a’u cynrychiolwyr i gynnal y sbardun dysgu gafodd ei greu gan y prosiectau.

 

1/042

Gweithio gyda’n holl bartneriaid i nodi anghenion sgiliau diwydiant a sicrhau bod hyfforddiant ar gael i gyflwyno’r agenda carbon isel yng Nghymru.

AdAS

P

G

G/C

Mae Adran Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau Cymru, cwmnïau allweddol yng Nghymru

(cwmnïau angori), Paneli Sectorau, Cynghorau Sgiliau Sector a’n Huned Gwybodaeth am y Farchnad Lafur i chwilio am fylchau yn sgiliau gweithlu Cymru, nawr ac yn y dyfodol. Rydym yn rhannu’r wybodaeth â’n partneriaid darparu i’w helpu i gynllunio. Hefyd, trwy gydnabod gofynion yr economi werdd yn y dyfodol, ynghyd â rhaglenni fel Arbed 2, mae Llywodraeth Cymru yn noddi hyfforddiant sy’n cael ei ddarparu trwy’r prosiect Sgiliau Darparu Carbon Isel, a’r disgwyl yw y bydd 660 yn cymryd rhan yn 2011-12. Daw’r prosiect i ben ym mis Gorffennaf 2012 a chaiff trafodaethau eu cynnal ynghylch darparu hyfforddiant ar gyfer yr agenda carbon isel.

 

Cynhaliwyd gweithdy Sgiliau ar gyfer Cymru Werddach gyda’r prif grwpiau perthnasol i fapio’r ymrwymiadau polisi presennol ar gyfer sgiliau ‘gwyrdd’, nodi canlyniadau tebygol a ffocws unrhyw waith polisi newydd.

 

PENNOD 3: Addysg

 

 

 

 

 

 

Cyflwyno’r Bil Strwythurau, Llywodraethu ac Anghenion Arbennig.

AdAS

P

P

G/C

Mae’r Bil Addysg Bellach ac Uwch (Cymru) a’r Bil Addysg (Cymru) yn disodli’r Bil hwn. Mae’r ddeddfwriaeth yn symud yn ei blaen yn unol â’r amserlen i’w chyflwyno yn 2013.

3/019

Sicrhau bod pob ysgol, coleg a phrifysgol yn gweithredu’n gyfan

gwbl fel sefydliadau cymunedol.

AdAS

P

G

C

Roedd cynlluniau y Grant Effeithiolrwydd Ysgolion yn cynnwys camau sy’n berthnasol i un o flaenoriaethau Gweinidog Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru, sef lleihau effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol, trwy gynyddu’r defnydd o ysgolion fel sefydliadau cymunedol.

 

Roedd adroddiad Humphreys ar lywodraethu colegau yn argymell cyflwyno Corff Aelodaeth ym mhob coleg, yn cynnwys cynrychiolwyr y gymuned, i sicrhau bod y coleg yn bodloni anghenion y gymuned leol. Mae’r cylch gwaith y cytunodd Llywodraeth Cymru arno ar gyfer sefydliadau Addysg Bellach ac Uwch yng Nghymru yn ei gwneud yn ofynnol i’r sefydliadau ystyried eu cymunedau lleol a’r economi yn llawn.

 

3/025

Annog uno mwy o golegau Addysg Bellach (AB) lle mae hyn

yn darparu mwy o gyfleoedd dysgu i ddysgwyr. Byddwn hefyd

yn gofyn am gydweithredu agosach rhwng darparwyr AB a

darparwyr Addysg Uwch (AU) lle bydd hyn yn arwain at fwy

o effeithlonrwydd ac ehangu mynediad.

AdAS

G

G

G/C

O 1 Ebrill 2012 mae 14 o Gorfforaethau Addysg Bellach yng Nghymru. Fodd bynnag yn y dyfodol, mae’n debygol y bydd gostyngiad pellach yn nifer y sefydliadau addysgol. Cyfunodd Coleg Llandrillo a Choleg Menai ar 1 Ebrill 2012 i lunio Grwˆ p Coleg Llandrillo; mae gan y sefydliad newydd hwn gysylltiadau cryf eisoes â Phrifysgol Bangor ac mae’n bwriadu datblygu’r cysylltiadau hyn ymhellach. Mae Colegau Iâl a Glannau Dyfrdwy wedi cyhoeddi eu bwriad i uno erbyn Awst 2013, ac mae Ystrad Mynach a Choleg Morgannwg hefyd wedi mynegi eu bwriad nhw i uno. Mae Coleg Powys wedi dechrau ei astudiaeth ddichonoldeb

ar yr opsiynau ar gyfer y dyfodol. Mae Coleg Sir Gâr yn bwriadu datblygu achos amlinellol strategol gydag opsiynau ar gyfer prifysgol sector deuol (Addysg Bellach ac Uwch) ar gyfer De-orllewin Cymru. Mae Coleg Sir Benfro hefyd yn awyddus i gynnal trafodaethau ar brifysgol sector deuol yn ogystal â Choleg Ceredigion, sy’n cynnal ei astudiaeth ddichonoldeb ei hun ar ei opsiynau ei hun.

 

3/026

Gweithio gyda darparwyr AB i sefydlu trefniadau ariannu tair

blynedd a fydd yn caniatáu cynllunio strategol gwell a dull

cliriach o ddarparu cyrsiau. Caiff y trefniadau hyn eu llywio

gan ansawdd darpariaeth pob coleg.

AdAS

P

GD

G/C

Mae Llywodraeth Cymru wedi trefnu dyraniadau cyllid dangosol tair blynedd ar gyfer 2011/12 i 2013/14. Mae amlder dyraniadau cyllid yn y dyfodol wedi’i gynnwys yn yr Adolygiad Cynllunio a Chyllido Ôl-16, fydd yn cyflwyno adroddiad interim i Weinidog Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru yn ystod mis Tachwedd 2012 i helpu i lywio’r trefniadau ariannu yn y dyfodol.

 

3/028

Sicrhau parch cydradd rhwng darlithwyr colegau a staff addysgu mewn ysgolion trwy gynnal y cyswllt presennol rhwng tâl ac amodau.

AdAS

G

G

G/C

Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau cydraddoldeb rhwng

darlithwyr colegau a staff addysgu mewn ysgolion trwy gynnal y

cyswllt presennol rhwng tâl ac amodau yn nhelerau’r cyllid grant

craidd i golegau.

 

 

3/029

Cyflwyno contract Cymru gyfan ar gyfer darlithwyr AB.

AdAS

P

P

G/C

Nid oes gan Weinidogion Cymru bwerau datganedig i bennu tâl ac amodau staff sefydliadau Addysg Bellach, ond maent yn awyddus i weld contract cyffredin ar draws pob sefydliad o’r fath. Bydd contract o’r fath yn helpu i foderneiddio’r sector Addysg Bellach ac yn cynorthwyo’r broses uno gan y byddai gan staff yr un telerau ac amodau. Mae ColegauCymru a’r Undebau yn trafod ar hyn o bryd.

 

3/030

Parhau â’n cefnogaeth ar gyfer datblygu dysgu oedolion a’r

gymuned, yn cynnwys Cronfa Ddysgu Undebau Cymru, a gwella llwybrau datblygu trwy ofyn am gydweithredu rhanbarthol effeithiol rhwng sefydliadau AB ac AU.

AdAS

P

G

C

Cafodd y Cynllun Gweithredu Dysgu Oedolion yn y Gymuned

ei gwblhau ac mae cynlluniau cyflenwi gwasanaethau wedi’u

dadansoddi ac yn adlewyrchu’r ymrwymiadau fel y bo angen.

 

Ar gyfer Cronfa Ddysgu Undebau Cymru, gweler 1/041 uchod.

 

Mae nifer o bartneriaethau cydweithredu posib rhwng

Addysg Uwch ac Addysg Bellach yn cael eu datblygu ar hyn

o bryd gan gynnwys cynghrair strategol rhwng Grwˆ p Coleg

Llandrillo a Phrifysgol Bangor; adolygiad o Addysg Uwch yng

Ngogledd-ddwyrain Cymru; darpariaeth amaethyddol rhwng Grwˆ p

Coleg Llandrillo, Coleg Glannau Dyfrdwy a Phrifysgol Aberystwyth

a datblygu prifysgol addysg uwch a phellach ddeuol yn

Ne-orllewin Cymru.

 

3/031

Diwygio llywodraethu AB yng Nghymru, ar drywydd dielw

neu fentrau cymdeithasol, er mwyn rhoi llais i ystod ehangach

o randdeiliaid ynglyˆ n â’r ffordd y caiff colegau eu rhedeg.

AdAS

P

P

P/G/C

Derbyniodd Gweinidog Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru

40 o’r 41 o argymhellion yn adroddiad Humphreys i ddiwygio

Llywodraethu Addysg Bellach yng Nghymru. Roedd argymhellion

yr adolygiad hwn yn cynnwys sefydlu Cyrff Aelodaeth ar gyfer pob

coleg yn cynnwys amrywiol randdeiliaid ledled y gymuned i herio’r

cyrff llywodraethu.

 

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio mewn partneriaeth â

ColegauCymru, y corff sy’n cynrychioli’r sector, i hybu diwygio’r broses lywodraethu.

 

3/032

Sicrhau bod llais y dysgwr yn ganolog i wneud penderfyniadau

strategol mewn colegau AB.

AdAS

P

G

G/C

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod llais y

dysgwr yn ganolog i’r broses o wneud penderfyniadau strategol

mewn colegau Addysg Bellach, a chynhelir arolwg o lais y dysgwr

dan arweiniad y darparwr yn ystod 2013. Mae contractwyr wedi’u penodi i gynnal adolygiad o gwestiynau’r arolwg a chynnal profion gwybyddol gyda’r dysgwyr yn ystod tymor yr hydref.

 

3/033

Cynnal Lwfansau Cynnal Addysg (EMAs) ar gyfer dysgwyr

16-19 oed trwy gydol cyfnod y weinyddiaeth hon.

AdAS

G

G

G/C

Mae Lwfansau Cynhaliaeth Addysg Llywodraeth Cymru wedi’u

cynnal drwy gydol 2011-12.

 

 

3/034

Trwy ddeddfwriaeth lle bo angen, cyflwyno cydlyniaeth ac

effeithlonrwydd i AU trwy sefydlu un corff cynllunio strategol

ac ariannu.

AdAS

P

P

G/C

Y bwriad oedd bwrw ymlaen â’r diwygiadau i’r broses lywodraethu a nodwyd yn sgil Adolygiad McCormick, gan gynnwys cynigion i sefydlu un corff cynllunio a chyllido strategol a chod cenedlaethol newydd ar gyfer llywodraethu sefydliadau, fel rhan o ymgynghoriad ehangach cyn y broses ddeddfu ar y Bil Addysg Bellach ac Uwch (Cymru). Fodd bynnag, caiff proses raddol o ddiwygio AU ei gweithredu gan ymgynghori i ddechrau ar y newidiadau deddfwriaethol angenrheidiol er mwyn sicrhau bod y ddarpariaeth addysg uwch yng Nghymru yn cael ei goruchwylio ar sail rheoliadau o dan y trefniadau cyllido newydd. Caiff y diwygiadau llywodraethu eu hailystyried yn nes ymlaen a chânt eu datblygu fel rhan o ymgynghoriad arall yn 2013/14.

 

 

3/035

Byddwn yn defnyddio ystod lawn ein pwerau, yn cynnwys pwerau deddfwriaethol, i sicrhau erbyn 2013 nad oes unrhyw brifysgol yng Nghymru yn gweithredu ar drosiant sydd yn llai na 75% o gyfartaledd y DU.

AdAS

P

G

G/C

Cafodd ymateb y Gweinidog Addysg a Sgiliau i gynigion Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i ad-drefnu, a amlinellir yn ei adroddiad “Strwythur Prifysgolion yng Nghymru yn y Dyfodol” ei gyhoeddi ym mis Tachwedd 2011. Sefydlwyd panel gan Lywodraeth Cymru i adolygu patrwm y ddarpariaeth Addysg Uwch yng Ngogledd-ddwyrain Cymru, gyda’r bwriad o adrodd yn ôl i’r Gweinidog, gydag argymhellion, erbyn mis Ebrill 2013. Mae’r Gweinidog yn cynnal trafodaethau gyda’r sefydliadau yr effeithir arnynt gan gynigion CCAUC i ad-drefnu yn Ne-ddwyrain

Cymru. Mae cyflawni’r targed hwn yn llawn yn dibynnu ar weithredu’r agenda ad-drefnu dros y 2 flynedd nesaf.

 

3/036

Cryfhau llywodraethu Sefydliadau Addysg Uwch trwy gyflwyno her fwy allanol ar lefel Cynghorau a thrwy sicrhau bod

profiad a llais y dysgwr yn ganolog i lywodraethu da mewn

AU yng Nghymru.

AdAS

P

P

G/C

Y bwriad oedd bwrw ymlaen â’r diwygiadau i’r broses lywodraethu a nodwyd yn sgil Adolygiad McCormick, gan gynnwys cynigion i sefydlu un corff cynllunio a chyllido strategol a chod cenedlaethol newydd ar gyfer llywodraethu sefydliadau, fel rhan o ymgynghoriad ehangach cyn y broses ddeddfu ar y Bil Addysg Bellach ac Uwch (Cymru). Fodd bynnag, caiff proses raddol o ddiwygio AU ei gweithredu gan ymgynghori i ddechrau ar y newidiadau deddfwriaethol angenrheidiol er mwyn sicrhau bod y ddarpariaeth addysg uwch yng Nghymru yn cael ei goruchwylio ar sail rheoliadau o dan y trefniadau cyllido newydd. Caiff y diwygiadau llywodraethu eu hailystyried yn nes ymlaen a chânt eu datblygu fel rhan o ymgynghoriad arall yn 2013/14.

 

3/037

Byddwn yn parhau i lywio’r broses trawsnewid a rhesymoli

sydd yn dechrau datblygu yng Nghymru gan greu nifer llai

o brifysgolion cryfach. Nid ydym yn bwriadu cau unrhyw un

o gampysau AU Cymru.

AdAS

P

G

G/C

Mae Gweinidog Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru wedi penodi panel i adolygu’r ddarpariaeth Addysg Uwch yng Ngogledd-ddwyrain Cymru, i adrodd yn ôl gydag argymhellion ym mis Ebrill 2013. Cynhaliodd y Gweinidog drafodaethau gyda Phrifysgol Morgannwg, Prifysgol Cymru Casnewydd a Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd, yn ogystal â’r undebau,

ar yr uno arfaethedig.

 

3/038

Byddwn yn sicrhau bod gan bob SAU yng Nghymru Undebau

Myfyrwyr wedi eu hariannu’n ddigonol sydd yn gallu cynrychioli eu haelodau yn effeithiol a bod SAUau yn cyflwyno ‘siartrau myfyrwyr’ ystyrlon mewn cydweithrediad â’u cyrff myfyrwyr.

AdAS

G

C

C

Mae pob Sefydliad Addysg Uwch yng Nghymru yn gweithio tuag at neu eisoes wedi mabwysiadu Siarter Myfyrwyr. Mae disgwyl i bawb baratoi Siarter erbyn mis Awst 2012. Cyhoeddodd CCAUC ganllawiau terfynol ar gyfer sefydliadau addysg uwch yng Nghymru ym mis Mawrth 2012 ar gyllido undebau myfyrwyr effeithiol a democrataidd, ac ar gynrychiolaeth myfyrwyr. Mae’n ofynnol i sefydliadau gymryd y camau sy’n cael eu hamlinellu yn y canllawiau erbyn 1 Awst 2012.

 

 

3/039

Byddwn ond yn caniatáu i ffioedd Prifysgolion Cymru godi uwchlaw £4000 pan fydd sefydliadau yn gallu dangos eu bod yn gwella profiad y myfyrwyr ac yn ehangu mynediad.

AdAS

G

G

C

Mae Llywodraeth Cymru wedi craffu ar gynllun ffioedd pob

Prifysgol yng Nghymru ac wedi cytuno arnynt.

 

 

3/040

Gweithredu ein haddewid na fydd unrhyw fyfyriwr [israddedig

amser llawn] sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru yn talu ffioedd uwch, mewn termau real, yn ystod oes y weinyddiaeth hon na phe byddent wedi bod yn fyfyrwyr yn 2010-11. Bydd hyn

yn berthnasol waeth ble mae’r myfyriwr yn dewis astudio, p’un ai yng Nghymru neu rywle arall.

AdAS

P

G

G/C

Daeth y ddeddfwriaeth i rym ar 12 Ebrill 2011 i weithredu y grant Ffioedd Dysgu ar gyfer Blwyddyn Academaidd 2012/13, gyda rheoliadau diwygio technegol yn dod i rym o fis Chwefror 2012.

 

Roedd yr adborth o’r ymgynghoriad ar ffioedd rhan amser yn llywio datganiad y Gweinidog a wnaed ym mis Tachwedd 2011 yn argymell oedi cyn gweithredu’r ffioedd dysgu rhan amser a’r pecyn cymorth tan y flwyddyn academaidd 2013/14. Mae rheoliadau diwygio i’w paratoi i sicrhau bod y trefniadau cymorth presennol yn parhau i fod yn berthnasol yn 2012/13. Mae’r ddeddfwriaeth sydd ei hangen i ddarparu cymorth ar gyfer astudiaethau rhan amser o 2013/14 ymlaen yn cael ei datblygu ar hyn o bryd. Mae disgwyl iddi ddod i rym mewn pryd i fyfyrwyr wneud cais am y cymorth.

 

3/041

Cyflawni ein hymrwymiad i ddod ag AU i rai o’n cymunedau mwyaf difreintiedig trwy sicrhau sefydlu menter Prifysgol Blaenau’r Cymoedd. Mae’r ymrwymiad hwn nid yn unig yn

ymwneud â dod ag AU yn agosach at y rheiny a allai elwa fwyaf, mae hefyd yn ymwneud ag adfywio calon ac enaid y gymuned.

AdAS

G

C

C

Sefydlwyd Rhaglen Blaenau’r Cymoedd gyda 1,476 o ddysgwyr yn cael eu recriwtio ym mlwyddyn academaidd 2011/12 a 79,225 o gredydau yn cael eu cyflenwi erbyn diwedd mis Mai.

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi’n drwm hefyd ym Mharth Dysgu Glynebwy ac Ardal Ddysgu Merthyr, dau gampws trydyddol newydd sydd wedi’u cynllunio i ddod â’r gorau o addysg Ôl-16 i Flaenau’r Cymoedd ac i wneud y gorau o’r cyfleoedd i ddysgwyr fynd ymlaen i addysg uwch. Wrth wneud hyn mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio ochr yn ochr â Chynghorau Bwrdeistref Blaenau Gwent a Merthyr Tudful, Coleg Gwent a Choleg Merthyr, Grwˆ p Prifysgol Morgannwg, Prifysgol Casnewydd a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

 

3/042

Cynnal ein hymrwymiad i ddarparu cymorth ariannol

gwirioneddol i fyfyrwyr o’r aelwydydd â’r incwm isaf i lefelau cyfredol o leiaf trwy gydol cyfnod y weinyddiaeth hon.

AdAS

G

G

C

Mae pob ymgeisydd cymwys ar gyfer Grantiau Dysgu y Cynulliad

wedi derbyn y cymorth priodol yn ystod y flwyddyn.

 

 

3/043

Parhau i gefnogi’r Coleg Ffederal [a ailenwyd ‘y Coleg Cymraeg

Cenedlaethol’] yn ei genhadaeth i oruchwylio, rheoli a datblygu

addysg uwch cyfrwng Cymraeg yn annibynnol ar draws Cymru.

AdAS

G

G

C

Mae’r cyllid i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi parhau trwy CCAUC. Dyma’r flwyddyn gyntaf iddo roi ei gynllun ysgoloriaeth ar waith. Cafwyd llai na’r disgwyl o geisiadau. Bydd y Coleg yn adolygu ei ddull o hyrwyddo’r cynllun ysgoloriaeth ar gyfer blwyddyn academaidd 2012/13 ac yn edrych ar ffyrdd eraill o weithio gyda sefydliadau addysg uwch i hyrwyddo’r cynllun i’w darpar fyfyrwyr.

 

 

PENNOD 9: Mynd i’r afael â thlodi

 

 

 

 

 

 

Byddwn yn ceisio lliniaru effaith y newidiadau i’r system budd-daliadau a gynigiwyd gan Lywodraeth y DU yn y Bil Diwygio Lles, a sicrhau bod yr adnoddau cysylltiedig yn cael eu

defnyddio i gyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer lleihau tlodi.

LGC AdAS

P

P

G

Mae Bil Diwygio Lles y DU bellach wedi derbyn Cydsyniad Brenhinol. Mae Grwˆ p Gorchwyl a Gorffen Diwygio Lles y Gweinidog wedi’i sefydlu er mwyn mynd i’r afael â’r heriau sy’n deillio o newidiadau Llywodraeth y DU i’r system budd-daliadau. Mae’r grwˆ p hwn, a arweinir gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau, bellach yn gyfrifol am asesu a monitro effaith gronnol yr holl newidiadau lles er mwyn helpu i sicrhau ymateb unedig a thrawslywodraethol.

 

Mae Grwˆ p Gorchwyl a Gorffen y Gweinidog wedi comisiynu asesiad cynhwysfawr o effeithiau cronnol y newidiadau i fudd-daliadau a gynigir gan Lywodraeth y DU yng Nghymru. Cyhoeddwyd Cam Un o’r

asesiad hwn ym mis Chwefror 2012 a chafodd llawer o bryderon difrifol Llywodraeth Cymru ynghylch cwmpas a graddfa newidiadau Llywodraeth y DU o fewn yr agenda ehangach ar gyfer Diwygio Lles eu cyfiawnhau. Wrth i ragor o gasgliadau gael eu cyhoeddi bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio canlyniadau’r asesiad hwn i helpu i sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar leddfu goblygiadau negyddol y gwaith o Ddiwygio Lles, ac yn parhau i flaenoriaethu adnoddau er mwyn lleihau tlodi. Yn ogystal â hyn, mae Gweinidogion a swyddogion bellach yn gweithio drwy nifer o fforymau’r Adran Gwaith a Phensiynau er mwyn nodi effaith y newidiadau ar Gymru a chynrychioli safbwyntiau a phryderon Llywodraeth Cymru.

 

Mae AdAS yn sicrhau bod safbwyntiau Llywodraeth Cymru yn cael eu cynrychioli ar Fyrddau rhanddeiliaid yr Adran Gwaith a Phensiynau ac wrth weithredu’r prosiect Credyd Cynhwysol. Mae’r gwaith gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau/y Weinyddiaeth Gyfiawnder ar gyfer y peilot yng Nghymru ar gyfer y rheini sy’n gadael y carchar yn parhau, ac mae mwy o waith wedi’i wneud gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau i fynd i’r afael â materion meithrin sgiliau, er mwyn rhoi cyngor i Weinidogion.

 

 

PENNOD 12: Diwylliant a threftadaeth Cymru

 

 

 

 

 

12/017

Canolbwyntio ar ddarpariaeth ôl-16 er mwyn sicrhau y gall

myfyrwyr barhau i astudio a dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg y

tu allan i amgylchedd yr ysgol.

AdAS

G

G

G

O edrych ar y cyrsiau a oedd yn cael eu cynnig ym mis Medi 2011, gwelir bod cynnydd yn nifer y cyrsiau sy’n cael eu cynnig drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog ym maes Addysg Bellach, neu mewn partneriaeth ag ysgolion, ers mis Medi 2010. Yn 2011-12 mae’r grant o £1.6 miliwn, sy’n grant wedi’i neilltuo, wedi’i roi i’r rhwydweithiau 14-19, ac mae cyfanswm o 181 (131 yn 2010) o gyrsiau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn derbyn cymorth, gyda 74 ar Lefel 3. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gydweithio’n agos â’r Cyfarwyddwr Dwyieithrwydd

yng NgholegauCymru i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg mewn

Addysg Bellach.